£9.8m i ddefnyddio AI i greu cnydau gwydn newydd

Fe fydd grant o £9.8m yn helpu gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial er mwyn creu cnydau gwydn newydd mewn ymateb i heriau newid hinsawdd.

Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yw'r unig sefydliad ymchwil strategol yng Nghymru o blith wyth ar draws y DU i gael "buddsoddiad hirdymor" gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol.

Mae gwaith y ganolfan yn cynnwys ceisio cael atebion i faterion fel diogelwch bwyd a chynhyrchu bio-ynni cynaliadwy er mwyn cyrraedd targedau sero net.

Fe fydd y cyllid cnydau gwydn newydd, rhwng 2023 a 2028, yn cefnogi ymchwil i rygwellt parhaol, meillion, ceirch a'r glaswellt ynni, miscanthus.

Fe fydd y gwyddonwyr yn ymchwilio i leihau effaith amgylcheddol da byw, datblygu offer i gyflymu'r broses o fridio planhigion, a defnyddio bioburfeydd i gynyddu nifer y cynhyrchion sy'n seiliedig ar blanhigion.

Yn ôl y ganolfan mae'r buddsoddiad yn gyfle iddyn nhw helpu'r byd amaeth "i allu gwrthsefyll yr hinsawdd yn fwy", a bod potensial i'r datblygiadau a ddaw "greu diwydiannau a swyddi newydd o fewn economïau gwledig a threfol".

Dr Judith Thornton o Brifysgol Aberystwyth fu'n dweud mwy wrth gyflwynydd rhaglen Dros Ginio, Jennifer Jones.