Beth yw Gorsedd y Beirdd?
- Cyhoeddwyd
Cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd.
Fe'u gwelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol wedi eu gwisgo mewn gwyn, gwyrdd a glas, yn cael eu harwain gan yr Archdderwydd. Gelwir aelodau'r Orsedd yn dderwyddon ac mae gan bob un ei enw barddol unigryw ei hun.
Gwreiddiau'r Orsedd
Daeth yr Orsedd ynghyd gyntaf yn 1792 ar Fryn Briallu (Primrose Hill) yn Llundain, wedi ei greu gan Iolo Morganwg.
Roedd yn un o ysgolheigion barddol enwocaf a mwyaf ecsentrig Cymru, a gafodd ei ysbrydoli gan farddoniaeth, amaeth ac archeoleg. Rhoddodd ei ogwydd ei hun ar ddylanwadau derwyddon, ond cadwodd yn gadarn at ei gredoau Cristnogol.
Penderfynodd ddefnyddio'r Orsedd fel modd o anrhydeddu llwyddiannau llenyddol llenorion Cymraeg.
Dechreuodd berthynas yr Orsedd â'r Eisteddfod yn nechrau'r 19eg ganrif, ac mae'n parhau hyd heddiw.
Meini'r Orsedd
Dyma leoliad seremonïau lliwgar yr Orsedd.
Lluniwyd y cynllun manwl yma o Gylch yr Orsedd ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae 12 maen yn ffurfio siâp cylch. Y garreg fawr wastad yng nghanol y cylch yw'r Maen Llog, a dyma lwyfan yr Archdderwydd yn ystod y seremonïau urddo.
Mae'n bosib gweld Cylch yr Orsedd mewn nifer o drefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru, wedi eu gadael yno i nodi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r dref neu'r ardal honno. Erbyn hyn, meini ffug sy'n cael eu cludo o Eisteddfod i Eisteddfod yn flynyddol.
Yr Archdderwydd
Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd. Mae'n cael ei ethol gan yr Orsedd am gyfnod o dair blynedd; dim ond Prifeirdd a Phrif Lenorion all ddal y swydd. Mae'n gyfrifol am arwain seremonïau'r Orsedd gan gynnwys seremonïau'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio.
Y Wisg Wen
Enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod sy'n gwisgo'r wisg wen. Gallwch adnabod enillwyr y Gadair, y Goron neu'r Fedal Ryddiaith gan eu bod yn gwisgo llawryf am eu penwisg.
Y Wisg Werdd
Mae'r aelodau sy'n gwisgo gwyrdd yn arbenigo ym myd y Celfyddydau. Gall hynny ddigwydd er anrhydedd am gyfraniad arbennig i'r celfyddydau yng Nghymru, trwy radd yn y Celfyddydau wedi ei astudio yn Gymraeg neu drwy arholiad. Mae enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd hefyd yn gwisgo'r wisg werdd.
Y Wisg Las
Mae'r wisg las ar gyfer rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i'w bro neu i'r genedl ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth neu'r Cyfryngau, neu sydd â gradd wedi ei astudio drwy'r Gymraeg mewn pwnc y tu allan i'r Celfyddydau.
Corn Gwlad
Mae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan bwysig o ddefodaeth yr Orsedd ers yr 1860au. Gallwch glywed y ffanffer cyfarwydd pan mae enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod yn cael eu galw i'r llwyfan.
Blodeuged
Tusw o flodau'r maes sy'n symbol o dir a phridd Cymru yw'r Flodeuged, sy'n cael ei gyflwyno i'r Archdderwydd gan berson ifanc o'r ardal. Mae'n symbol o ddymuniad ieuenctid Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod.
Corn Hirlas
Mae'r Corn Hirlas yn cael ei gyflwyno i'r Archdderwydd gan oedolyn lleol, fel symbol o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd.
Y Ddawns Flodau
Mae'r ddawns yn cyfleu casglu blodau'r maes ac yn cael ei pherfformio gan blant ysgol lleol. Cyfunir y ddawns gyda chyflwyniad y Flodeuged wrth i ddau o'r dawnswyr ychwanegu'u blodau nhw at y tusw.
Ceidwad y Cledd
Mae'r cleddyf yn cael ei ddefnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremonïau'r Eisteddfod. Gan ei fod yn gleddyf heddwch, nid yw byth yn cael ei ddadweinio'n llwyr. Sylwch hefyd mai wrth y llafn mae Ceidwad y Cledd yn ei ddal, yn hytrach na'r carn.
Enwogion yn yr Orsedd
Mae enwogion sydd wedi cael eu hurddo i'r Orsedd dros y blynyddoedd yn cynnwys sêr Hollywood Ioan Gruffudd a Matthew Rhys, y cantorion Bryn Terfel a Caryl Parry-Jones, yr athletwyr Tanni Grey-Thompson ac Aled Siôn Davies, y cyflwynwyr Alex Jones a Huw Stephens, a sêr rygbi Cymru George North a Jamie Roberts.