Argyfwng Tai: Sefyllfa 'amhosib' myfyrwraig o Gymru
Mae Nel Richards, sy'n fyfyrwraig yn Llundain, yn poeni na fydd ganddi le i fyw cyn cychwyn ei chwrs yn y brifysgol.
Yn ôl data sydd wedi'i gasglu gan y BBC mae 'na gymaint o gystadleuaeth i ddod o hyd i le i fyw fod 20 o bobl ar gyfartaledd yn ceisio gweld pob cartref sy'n cael ei osod.
Mae ystadegau gwefan Rightmove hefyd yn dangos bod y diddordeb mewn eiddo i'w rentu wedi treblu ar gyfartaledd ers cyn y pandemig.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe ddywedodd Nel Richards, sy'n paratoi i astudio yng Ngholeg Kings yn Llundain o fis Medi, ei bod yn chwilio ers dros fis am dŷ i'w rhentu gyda phedwar ffrind, ond heb gael unrhyw lwc.
Yn ôl Nel, y pris arferol erbyn hyn yw £900 y person am ystafell mewn tŷ yn Llundain.
Ond doedd hi ond yn talu £300 y mis pan oedd hi'n fyfyrwraig yng Nghaerdydd.
"Ni 'di cael un viewing yn y mis diwetha' a ni jyst ddim yn teimlo fy' ni'n ffendio lle," meddai.
"Un am fod e mor ddrud, a dau, am fod e mor gystadleuol."