Ymchwil cyfergydion: 'Mae'n bwysig gofalu am chwaraewyr'

Mae ymchwil newydd gan wyddonwyr yng Nghymru yn dangos bod cyfergydion niferus yn gadael eu hôl ar ymennydd chwaraewyr rygbi flynyddoedd ar ôl iddyn nhw ymddeol o'r gamp.

Bu Meredydd James, a chwaraeodd 400 o gemau yn y rheng flaen i Ben-y-bont ar Ogwr yn rhan o'r astudiaeth.

Dywedodd: "Mae'n bwysig dros ben bod chwaraewyr yn cael eu hedrych ar eu hôl, achos mae iechyd yn bwysig bwysig dros ben.

"Pan o'n i'n troi'n 60 roedd pethau'n dechrau newid oherwydd o'n i ddim yn cofio am bethau, cystal â 'ny.

"A falle tamed bach o balans hefyd. Odd pethe'n dechre dod mewn i hala bach o ofid."

Ar ôl dioddef cyfergydion, mae ymchwil yn dangos bod y llif gwaed i'r ymennydd yn lleihau, ac fe allai hyn gynyddu'r risg o ddementia ac Alzheimer's flynyddoedd wedyn.