Achub Mynydd Llanberis: '160 o alwadau eleni'n barod'

Mae Croeso Cymru wedi ymuno gyda Mentro'n Gall Cymru ar ymgyrch farchnata sy'n dangos i bobl sut i fwynhau'r awyr agored mewn modd diogel.

Dywedodd Elfyn Jones o Dîm Achub Mynydd Llanberis fod yr ymgyrch Mentro'n Gall wedi'i lansio i gael "gwybodaeth syml allan i bobl sy'n defnyddio cefn gwlad Cymru".

Wrth groesawu'r fenter, fe ddywedodd fod y tîm eisoes wedi ymateb i 160 o alwadau er nad yw'r tymor twristiaeth wedi cyrraedd ei hanfod eto.

"Does 'na ddim rheswm i rai pobl alw am wasanaeth brys pan mae hi wedi mynd yn dywyll, neu pan maen nhw wedi mynd yn wlyb neu wedi mynd ar goll," meddai.

"Drwy gynllunio o flaen llaw mae'n bosib osgoi hynny, ac os ydyn nhw'n paratoi o flaen llaw maen nhw am gael diwrnod llawer gwell ac maen nhw'n mynd i fwynhau eu hunain llawer mwy drwy wneud hynny hefyd."