Dysgwr y Flwyddyn 2023: Cyfweliad ag Alison Cairns

Mae Alison Cairns yn un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn 2023.

Daw o Perthshire yn Yr Alban yn wreiddiol ond erbyn hyn mae'n byw ar fferm ger Llannerch-y-medd ar Ynys Môn gyda'i phartner Sion a'u saith o blant.

Mae Alison hefyd yn ofalwr yn y gymuned ac yn dweud bod gallu siarad gyda phobl yn eu mamiaith yn hollbwysig.

Bydd cyfle i ddod i adnabod y tri arall ar y rhestr fer yn ystod yr wythnos hon.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yr wythnos nesaf.