Dysgwyr y Flwyddyn 2023: Cyfweliad â Roland Davies
Mae Roland Davies yn un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn 2023.
Fe gafodd ei eni a'i fagu yn Llidiartywaun, lle mae'n dal i fyw heddiw gyda'i wriag Fflur a thri o blant bach.
Yn bentref bach gwledig rhwng Llanidloes a'r Drenewydd, ardaloedd cymharol di-Gymraeg o'r canolbarth, doedd yr iaith ddim yn rhan o'i fywyd nes iddo ddechrau magu plant.
Bydd cyfle i ddod i adnabod y tri arall ar y rhestr fer yn ystod yr wythnos hon.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yr wythnos nesaf.