Dysgwyr y Flwyddyn 2023: Cyfweld â Manuela Niemetscheck

Mae Manuela Niemetscheck yn un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn 2023.

Daw o Ganada yn wreiddiol ond erbyn hyn mae'n byw ym Methesda.

Mi gwrddodd hi â'i chariad o Gymro yng Nghatalonia a dechrau dysgu Cymraeg ar ôl symud i Gymru yn 2005.

Mae cyfle i ddod i adnabod y tri arall ar y rhestr fer ar Cymru Fyw yn ystod yr wythnos.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yr wythnos nesaf.