Dysgwyr y Flwyddyn 2023: Cyfweld â Tom Trevarthen

Mae Tom Trevarthen yn un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn 2023.

Yn wreiddiol o Hartford yn Lloegr, mae Tom bellach yn byw yn Aberystwyth.

Symudodd Tom i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2011, cyn mynd yn ei flaen i wneud cwrs TAR a chael swydd yn Ysgol Henry Richard, yn Nhregaron.

Mae cyfle i ddod i adnabod y tri arall ar y rhestr fer ar Cymru Fyw yn ystod yr wythnos.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yr wythnos nesaf.