'Gall gwell dealltwriaeth o PMDD achub bywydau'

Fe allai gwell dealltwriaeth o Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) achub bywydau, yn ôl un ddynes sy'n byw gyda'r cyflwr.

Mae Ela Zaccaria wedi bod yn dioddef ohono ers cael ei thrydydd plentyn.

Ar gyfartaledd, mae'n gallu cymryd tua 12 mlynedd i gael diagnosis PMDD - ac mae'n debyg bod tua un ym mhob 20 o rai sy'n cael mislif (5%) yn dioddef.

"Naethon nhw ddechrau ar ôl i mi gael y trydydd plentyn," meddai Ela.

"So'r symptomau o'n i'n cael, o'dd o fatha bod fi wedi colli rhywun agos i fi, fatha bod rhywun 'di marw.

"Do'n i'm yn gallu stopio crio, o'n i'n teimlo'n unig, o'n i'n teimlo fel bod 'na iselder arna fi."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cydnabod bod yna ddiffyg cydnabyddiaeth o'r cyflwr ac yn dweud eu bod yn ceisio sicrhau bod hynny'n newid.