Carioci Cymraeg: Pa gân fyddech chi'n ei dewis?

Mae cwmni carioci o Loegr sy'n dosbarthu caneuon ar draws y byd wedi penderfynu cynnig caneuon yn y Gymraeg am y tro cyntaf, yn dilyn hwb diweddar ym mhoblogrwydd cân 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan.

Mae penderfyniad cwmni Sunfly yn cael ei ystyried yn un all fod yn hwb i'r iaith i'r dyfodol, ac mae'n dilyn blynyddoedd o alw ar y cwmnïau mawr i gynnwys mwy o ganeuon Cymraeg.

Dyna fu apêl Bryn Hughes - Bryn Bach Carioci i'w ffrindiau - am y rhan helaeth o'r chwarter canrif y mae wedi eu treulio'n crwydro'r clybiau a'r tafarndai gyda'i offer carioci.

Dywedodd mai "mwy a mwy o ganeuon carioci Cymraeg" sydd eu hangen er mwyn i bobl eu canu.

Ond pa ganeuon fyddai pobl yn hoffi gweld yn cael eu cynnig?