'Angen i'r heddlu wneud mwy i daclo lladrata'
Mae staff siopau yn cael eu hyfforddi i ddelio gyda thrais gan ladron ar ôl cynnydd mewn adroddiadau o drosedd.
Mae'r Constroriwm Manwerthu Cymreig yn dweud bod dros 30% o gynnydd wedi bod mewn achosion o drais a sarhad yn erbyn staff yng Nghaerdydd rhwng 2021 a 2022.
Ym mis Mawrth, fe wnaeth lluoedd heddlu Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gofnodi bron i 33,000 achos o ddwyn o siopau, ac roedd 68% o gynnydd yng Nghaerdydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn Sir Benfro, mae un siop wedi buddsoddi £15,000 mewn systemau diogelwch er mwyn ceisio atal lladron.
Yn sirad ar Dros Frecwast fore Iau dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys eu bod wedi gosod mwy o gamerâu cylch cyfyng er mwyn "helpu'r heddlu fynd ati i wneud ymchwiliadau ac ati a'u targedu".
"Yn enwedig y grwpiau a gangiau sydd o gwmpas sy'n targedu busnesau ac yn dwyn deunydd sydd yn gallu cael eu gwerthu ymlaen i wneud elw," meddai.
Ond ychwangodd mae blaenoriaeth y llu yw atal lladrata yn y lle cyntaf, yn hytrach na gorfod ymateb.