Jac Morgan: 'Clive Rowlands yn ysbrydoliaeth a cholled fawr'
Mae Jac Morgan wedi disgrifio Clive Rowlands fel "ysbrydoliaeth" wrth roi teyrnged i'r cyn-chwaraewr ac hyfforddwr oedd yn un o gewri'r byd rygbi yng Nghymru.
Bu farw Rowlands dros y penwythnos yn 85 oed - yr unig ddyn i fod yn gapten, yn hyfforddwr ac yn rheolwr ar dîm Cymru.
Bu Morgan yn adlewyrchu ar ei gyfraniad cyn iddo yntau ddod yn gapten diweddaraf Cymru, a hynny'r penwythnos hwn yn erbyn Lloegr wrth iddyn nhw herio'i gilydd fel rhan o baratoadau Cwpan y Byd.