Canfed cap Leigh Halfpenny: 'Ma' fe wir yn haeddu fe'

Pan fydd Leigh Halfpenny yn croesi'r llinell i wynebu Lloegr yn Stadiwm y Principality brynhawn Sadwrn fe fydd ond y nawfed dyn i chwarae 100 gêm ryngwladol i Gymru.

Gan ddilyn llwybr Alun Wyn Jones, Gethin Jenkins, George North, Dan Biggar, Stephen Jones, Gareth Thomas, Martyn Williams a Taulupe Faletau, mae'r asgellwr wedi ei ddisgrifio gan Warren Gatland fel "chwaraewr proffesiynol go iawn".

Ychwanegodd Gatland: "Mae cyrraedd y garreg filltir yma yn gamp arbennig ac yn destament i Leigh fel chwaraewr a pherson.

"Mi fydd yn ddiwrnod arbennig iawn iddo fo a'i deulu."

Ond yn 19 oed pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad yn erbyn De Affrica yn Nhachwedd 2008, bydd prynhawn Sadwrn yn ddiwrnod arbennig iawn i'r asgellwr sy'n wreiddiol o Orseinon.

Wrth ddathlu ei 100fed cap mae rhai o'i gyd-chwaraewyr a Chadeirydd Clwb Rygbi Gorseinon wedi dymuno'n dda i Halfpenny ar drothwy ei ddiwrnod mawr.

Bydd y cic gyntaf am 17:30 brynhawn Sadwrn.