40 mlynedd ers i bysgotwyr chwalu cynlluniau smyglwyr

Mae hi'n 40 mlynedd ers lansio ymgyrch Seal Bay gan Heddlu Dyfed Powys.

Fe arweiniodd gwybodaeth werthfawr gan ffermwyr a physgotwyr yn Sir Benfro at ddal un o gangiau cyffuriau mwyaf yn y byd yn yr 1980au.

Cafodd arweinyddion y gang Robin Boswell, miliwnydd o Lundain, a'r actor o Ddenmarc, Soeren Berg-Arnbak, a oedd wedi bod ar ffo ers 11 mlynedd, eu dal a'u carcharu.

Roedd Berg-Arnbak yn un o ddelwyr cyffuriau mwyaf adnabyddus Ewrop, ond cafod o a gweddill y gang eu rhwystro - diolch i adroddiadau am weithgarwch anarferol ger traeth Pwll Coch, Trefdraeth.