Ciwio am oriau i Faes B yn 'rhwystredig iawn'

Mae ciwiau hir wedi bod i gael mynediad i Faes B yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, gyda rhai wedi gorfod disgwyl oriau.

Roedd disgwyl i Faes B - sy'n cynnig lle i wersylla a digwyddiadau gyda'r nos - agor i'r cyhoedd am 12:00 ddydd Mawrth, ond am 13:00 agorodd y safle yn y pendraw.

Wrth i'r maes ieuenctid baratoi i agor, roedd gwaith adeiladu yn parhau i ddigwydd er mwyn paratoi'r safle cerddoriaeth.

Gyda rhai yn ciwio am bron i ddwy awr, dywedodd un person ifanc fod yr oedi yn "rili rhwystredig".

Ychwanegodd unigolyn arall bod Maes B yn "ofnadwy o hwyr yn agor" a bod "isio bach gwell trefn yma".