Awstralia: Darganfod Eisteddfod ar ochr arall y byd

Rydyn ni wedi clywed cryn dipyn am yr Eisteddfod dros yr wythnos ddiwethaf, ond nid un yn nhref Dalby yn Queensland, Awstralia!

Mae'r traddodiad o gynnal eisteddfodau wedi'u hallforio i Awstralia ers dros ganrif a hanner.

Un a gafodd sioc i ddod ar draws Eisteddfod Dalby dros y dyddiau diwethaf oedd Mared Elin Dafydd, oedd yno ar wyliau.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Mared ei bod wedi sicrhau fod pobl yno'n ymwybodol mai traddodiad o Gymru oedd eu dathliad!