Tanau Hawaii: 'Mae pobl wedi colli popeth'
Yn Hawaii mae llywodraethwyr wedi rhybuddio bod nifer y marwolaethau yn dilyn tanau gwyllt difrifol yn debygol o godi.
Mae 'na gadarnhad bellach fod 93 o bobl wedi marw, ond mae cannoedd yn rhagor yn dal ar goll wedi i'r tan 'sgubo trwy dref hanesyddol Lahaina.
Un sy'n byw ar ynys gyfagos Honolulu yw Benjamin Bruch, sy'n dweud bod rhai wedi colli popeth yn y tân.