Rhwyfo i Iwerddon i godi £40,000 er cof am ffrind

Fore Mawrth mae criw o ffrindiau yn bwriadu dechrau ar her o rwyfo 130 milltir dros Fôr Iwerddon er cof am gyfaill agos fu farw'r llynedd.Yn 38 oed, fe gymerodd Gareth Parry Owen ei fywyd ei hun fis Hydref 2022.Gyda Gareth wedi ei fagu ger y Fali yn agos i arfordir Môn, roedd yn caru'r môr, felly bwriad criw Row4Gaz yw coffáu ei fywyd drwy rwyfo o Gaergybi i Ddulyn ac yn ôl.