Costau gofal plant: 'Angen mwy o gymorth ariannol'

Mae rhai rhieni am i Lywodraeth Cymru ddarparu'r un faint o gymorth ariannol ar gyfer gofal plant â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr.

Mae Rhian Meara yn un o'r rhai sy'n teimlo y dylai rhieni dderbyn rhagor o gymorth er mwyn eu helpu yn ôl i waith.

Dywedodd ei bod wedi gwario £2,200 ar ofal plant mis yma ac mae'n teimlo bod angen rhagor o gymorth ariannol i rieni sydd efo plant sy'n ddwy flwydd oed neu'n iau.

Ychwanegodd bod y cymorth sy'n cael ei rhoi wedi i blant cyrraedd tair blwydd oed yn hynod ddefnyddiol ond bod angen ymestyn y cynllun i helpu rhieni - yn enwedig menywod - i allu mynd yn ôl i'r gwaith.

Yn Lloegr, cafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth y byddai gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn cael ei ymestyn i bob plentyn o dan bump ac mae deiseb yn galw am gynllun cyfatebol yng Nghymru wedi denu dros 6,000 o lofnodion mewn 48 awr.