Y drefn glirio: 'Ni yma i gefnogi a chynnig cymorth'

Er y bydd nifer yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch ddydd Iau mae'n siŵr y bydd eraill wedi'u siomi ac yn wynebu penderfyniadau anodd - gan gynnwys a ydyn nhw'n mynd i ymgeisio am brifysgol drwy'r broses glirio.

Dywed Teleri Lewis o Brifysgol Aberystwyth ei bod wedi bod yn fore prysur i'r tîm a'u bod hefyd wedi derbyn cryn dipyn o ymholiadau yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Ychwanegodd fod tipyn o "fwrlwm" wedi bod wrth i ddarpar-fyfyrwyr gysylltu i geisio cael lle ar gyrsiau.

"Yn amlwg mae yna ansicrwydd," meddai. "Maen nhw wedi derbyn eu canlyniadau a falle ddim 'di cael yr hyn ro'n nhw'n gobeithio, ond fi'n teimlo bod nhw'n ymwybodol iawn o'r opsiwn glirio.

"Ni yma i gefnogi a chynnig cymaint o gymorth â phosib. Ni hefyd yn cynnig, dros y penwythnos, cyfle i ddod i ymweld â'r brifysgol, so mae hynny hefyd yn gyfle bach sbesial ac extra i gadw pawb yn hapus a dangos bod 'na opsiynau arall ar gael, ac i beidio panico."

Mae canllaw gan UCAS yn annog myfyrwyr i weld y broses fel "cyfle i chi ddechrau eto".

Ond mae yna rybudd bod y rhan fwyaf o lefydd gwag yn llenwi'n gyflym.