Cyhoeddi cynlluniau gwerth £20m i ddatblygu canol Bangor

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol gwerth £20m i ddatblygu canol dinas Bangor.

Yn ganolog i'r cynllun mae codi canolfan iechyd a lles newydd yng Nghanolfan Menai - hen safle siop Debenhams.

Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd hynny'n fodd i ddod ag ychydig o brysurdeb a gwario yn ôl i ganol y ddinas.

Ond nid pawb sy'n rhannu'r farn honno, fel y clywodd Ellis Roberts ar ran rhaglen Newyddion S4C.