Cynllun newydd i gydlynu adnoddau o Gymru i'r Wladfa
Mae cynllun newydd wedi ei sefydlu i gydlynu'r gwaith o gludo nwyddau o Gymru i'r Wladfa.
Bydd gwasanaeth gwirfoddol Y Blwch yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng Cymru a'r Ariannin, gan obeithio sicrhau bod yr adnoddau cywir yn cyrraedd canolfannau ac ysgolion Cymreig.
"Y'n ni'n hynod werthfawrogol fod pobl o Gymru eisiau rhoi adnoddau," medd un o'r cydlynwyr Rhys Llewelyn o Nefyn, wnaeth dreulio cyfnod fel athro yn y Wladfa.
"Ond yn aml dydyn nhw ddim yn gwybod beth i'w roi.
"Bwriad y cynllun ydy sicrhau ein bod ni'n gweld lle mae'r anghenion a cheisio esbonio i bobl, dyma'r math o adnoddau sydd eu hangen yn y ganolfan yma," meddai wrth raglen Dros Frecwast.
"Fydd nifer fawr o Gymry yn mynd draw 'na eleni ar gyfer yr Eisteddfod, felly mae'n amserol iawn."
Fe ddywedodd Cymdeithas Gymreig Porth Mardyn mewn datganiad y byddai'r gwasanaeth yn un gwerthfawr.
"Rydyn ni'n awyddus iawn i bobl sy'n teithio i'r Wladfa gludo nwyddau ar ein cyfer gan fod postio mor ddrud," medd y llywydd Silvina Garzonio Jones.
Fe gafodd y cynllun ei lansio'n swyddogol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yng nghwmni'r Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts ac Eduardo Marinho o Borth Madryn, sy'n gweithio yn Amgueddfa'r Glanio.
"Rydw i'n hynod o falch fod y ddolen rhwng Cymru â'r Ariannin yn cael ei chryfhau gyda lansiad Y Blwch," medd Ms Saville-Roberts.
"Mae'r ysgolion yn y Wladfa angen adnoddau megis pocedi lamineiddio, gemau snap Lotto, blwtac, clocsiau, gemau bwrdd, gemau magnetig, llythrennau magnetig, posteri, sticeri iaith, bynting y ddraig goch."