Dafydd Iwan yn 80: Gwyliwch y cyfweliad estynedig

Mewn cyfweliad cynhwysfawr i nodi ei ben-blwydd yn 80 oed, mae Dafydd Iwan yn dweud fod y twf diweddar ym mhoblogrwydd 'Yma o Hyd' yn arwydd bod Cymry di-Gymraeg wedi "newid eu hagwedd tuag at y Gymraeg go iawn".

Bu'r canwr hefyd yn trafod sawl agwedd ar ei fywyd yn ogystal â'i safbwynt ar faterion fel annibyniaeth a'r frenhiniaeth.

Wrth drafod dyfodol y Gymraeg, dywedodd mai un o'r datblygiadau mwyaf "pwysig" oedd bod cymaint mwy o Gymry di-Gymraeg "bellach yn frwd o blaid yr iaith".

Nia Thomas fu'n ei holi ar ran BBC Cymru.