Taith Rodney o strydoedd Asia i Bentre'r Eglwys

Mae Rodney y ci wedi teithio'n bell o'i fan geni.

Wedi iddo gael ei ganfod ar ochr y stryd yng Ngwlad Thai, mae nawr wedi cael ei fabwysiadu gan deulu yng Nghymru.

Dywedodd Carys Hawkey o Bentre'r Eglwys, Rhondda Cynon Taf, bod y broses wedi bod yn un hir.

"Roedd e'n bach o drafferth cael e draw fan hyn, oherwydd deddfau ac yn y blaen ar draws gwledydd gwahanol.

"Mae'r broblem draw fan 'na [Gwlad Thai] yn anferthol. Fan hyn chi ddim yn gweld y cŵn o gwmpas y lle yn y gwyllt yn trio bwydo'i hun, ond draw fan na mae e mor drist a dorcalonnus."

Mae nawr gan Rodney ychydig dros 20,000 o ddilynwyr ar Instagram ac mae'n mwynhau pob eiliad o'i gartref newydd.