Osian Roberts: Angen i'r swydd nesaf 'fy nghyffroi i'
Mae cyn is-reolwr Cymru, Osian Roberts wedi dweud fod ganddo'r "awydd" i hyfforddi eto yn dilyn saib o'r byd pêl-droed.
Bu Roberts yn rhan o dîm hyfforddi Patrick Vieira gyda Crystal Palace yn Uwch Gynghrair Lloegr cyn i'r Ffrancwr gael ei ddiswyddo ym mis Mawrth eleni.
Mewn cyfweliad yn adlewyrchu ar ei yrfa hyd yma, mae'r gŵr o Ynys Môn wedi awgrymu y byddai'n well ganddo rôl hyfforddi arall, a hynny'n dilyn cyfnod blaenorol fel Cyfarwyddwr Technegol ym Morocco.
"Lle nesa'? Pwy â ŵyr. Mi oedd gweithio dros Gymru yn deimlad arbennig gan eich bod chi'n gwneud rhywbeth dros eich gwlad," meddai.
"Mi oedd gweithio yn Uwch Gynghrair Lloegr yn brofiad gwych - pwy fysa ddim eisiau gweithio yno eto? Mae hynny yn amlwg yn apelio.
"Dwi'n agored i'r syniad o deithio eto. Mae 'na brosiectau cyffrous yn digwydd ar draws y byd lle mae pêl-droed yn datblygu.
"Pwy â ŵyr os mai un o'r rheiny fydd yn dal fy sylw ac yn fy nghyffroi fwyaf?"