Ydy hi wedi bod yn haf llwyddiannus i fusnesau?

Mae gwyliau'r haf bron ar ben yng Nghymru, a thymor prysuraf y flwyddyn yn dod i ddiwedd ar gyfer y busnesau hynny sy'n dibynnu ar dwristiaid.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod 'na ymdrech ychwanegol yn cael ei wneud bellach i ddenu mwy o ymwelwyr o dramor.

Pa mor brysur mae hi wedi bod dros yr haf felly? Sion Tootill aeth i Gricieth i holi ar ran rhaglen Newyddion S4C.