Cost gwisg ysgol: 'Y prif beth yw cydraddoldeb'

Mae adeg yma'r flwyddyn yn gallu bod yn anodd i rhai rhieni ar y gorau, gan ei bod hi'n bryd prynu dillad i'w plant cyn dechrau'r flwyddyn addysgol newydd.

Ond mewn cyfnod o chwyddiant uchel, mae dod o hyd i'r arian i'w prynu'n anoddach nag erioed i lawer o deuluoedd.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau newydd ym mis Mai gan ofyn i ysgolion ailedrych ar eu polisïau gwisg ysgol, er mwyn sicrhau eu bod yn fwy fforddiadwy.

Mae gofyn, er enghraifft, i beidio â mynnu bod pob dilledyn â logo'r ysgol, ac i gynnal cynlluniau ailgylchu dillad ysgol.

Roedd nifer o ysgolion eisoes wedi cyflwyno camau o'r fath er mwyn helpu teuluoedd, fel y dywedodd Tracy Neale, un o benaethiaid cynorthwyol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, sydd â safleoedd yn y Coed Duon a Chaerffili.