Gwirfoddolwyr RNLI yn achub pobl aeth i drafferth ger Y Barri

Mae'r RNLI yn annog pobl i gymryd gofal wrth ymweld â'r arfordir yn ystod y tywydd cynnes.

Yn ôl yr elusen, mae'r rhan fwyaf o wasanaethau achubwyr bywyd yr RNLI wedi dirwyn i ben ar draethau Cymru am yr haf.

Ond gyda sawl ardal wedi gweld tymereddau o 30C ganol yr wythnos, dywedon fod cynnydd yn nifer y byrddau padlo sydd wedi'u hachub yn ddiweddar.