Seiclo o Baris i Bordeaux i godi arian i daclo canser

Mae grŵp o Gymry wedi cyrraedd Bordeaux ddydd Sadwrn ar ôl taclo her seiclo 400 milltir yr holl ffordd o Baris, er mwyn codi arian at ganolfan ganser.

Er gwaethaf y tywydd crasboeth yn Ffrainc dros y dyddiau diwethaf, llwyddodd y criw i gwblhau'r her ag eithrio un diwrnod ble bu'n rhaid iddyn nhw roi saib ar y seiclo am resymau diogelwch.

Ymhlith y rheiny oedd yn cymryd rhan yn yr her roedd cyn-chwaraewyr Cymru, gan gynnwys Jonathan Davies a Dyddgu Hywel.

Dywedodd Dyddgu Hywel: "Mae 'di bod dipyn o her.

"Mae gynnon ni gyd cysylltiadau gydag anwyliaid sydd wedi gorfod dioddef a chanser yn anffodus felly unrhywbeth allwn ni wneud i gefnogi'r elusen dwi'n cefnogi."

Roedd pob un o'r beicwyr ar yr her wedi cael targed o geisio codi o leiaf £3,000 yr un, gyda rhai wedi mynd ymhell tu hwnt i hynny - ac maen nhw nawr yn aros am gadarnhad o faint yn union sydd wedi ei godi i Ganolfan Felindre.