Cymry'n canu yn Bordeaux cyn y gêm yn erbyn Fiji

Fe wnaeth grŵp o Gymry ymgynnull yn Bordeaux ddydd Sul er mwyn canu a dangos eu cefnogaeth i dîm rygbi Cymru.

Mae miloedd o gefnogwyr wedi heidio i'r ddinas ar gyfer gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Fiji.

Bu'r grŵp yn canu nifer o alawon adnabyddus fel Sosban Fach, Calon Lân, a'r anthem genedlaethol.