Cynghrair bêl-droed merched Cymru'n mynd o nerth i nerth

Gyda sawl clwb wedi cynnig cytundebau lled broffesiynol, a chynnydd yn nifer y gemau byw ar y teledu, mae proffil cynghrair bêl-droed merched Cymru - yr Adran Premier - yn uwch nag erioed.

Mae'r tymor newydd yn cychwyn ddydd Sul, gyda gêm gyntaf Wrecsam yn yr uwchgynghrair yn erbyn Abertawe yn fyw ar S4C yn y prynhawn.

Caerdydd enillodd y bencampwriaeth y llynedd, ac mae Carl Roberts o adran Chwaraeon BBC Cymru wedi bod yn bwrw golwg dros y clybiau fydd yn brwydro am y bencampwriaeth.