20mya: 'Dwi'n teimlo bod yna newid yn barod'

Mae gyrwyr hyd a lled Cymru yn dod i arfer â threfn newydd ddydd Sul, gyda'r angen i gadw golwg fanylach ar arwyddion ffordd nawr bod llawer o ffyrdd 30mya yn ffyrdd 20mya.

Cymru yw gwlad gyntaf y DU i osod y terfyn cyflymdra ar ffyrdd cyfyngedig, er mae gan gynghorau sir hawl i eithrio rhai ble mae 30mya yn fwy priodol.

Fe fydd yn lleihau nifer y damweiniau a marwolaethau, medd Llywodraeth Cymru, sy'n amddiffyn cost cyflwyno'r polisi, sef £32.5m.

Ond mae'r newid yn un dadleuol - yn ôl gwrthwynebwyr fe fydd ymestyn hyd teithiau yn niweidiol yn economaidd ac yn rhwystredig i yrwyr.

Serch hynny, roedd yn ymddangos bod pobl yn gyrru'n arafach na'r arfer trwy ganol Y Bala ar fore cyntaf y newid, yn ôl y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n croesawu'r cam.