Archif: Cyfyngiadau cyflymder yng Nghymru ym 1961

Gyda chyfyngiadau cyflymder newydd 20mya yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, roedd rheolau tebyg wedi amlygu eu hunain hefyd ym 1961.

Bryd hynny gwelwyd arwyddion 50mya cyntaf yn cael eu gosod ar bedair o brif ffyrdd Cymru.

Roedd hyn yn cyd-fynd gyda sawl prif ffordd arall ym Mhrydain oedd wedi gosod yr arwyddion i rybuddio gyrwyr.

Daw'r clip archif o raglen O Sul i Sul, ac fe'i ffilmiwyd ar ffordd yr A48 rhwng Caerdydd a Bro Morgannwg.