'Methu dychmygu' sŵn ger hosbis berffaith Tŷ Hafan

Mae mam i blentyn fu farw yn Tŷ Hafan wedi dweud y byddai adeiladu parc gwyliau wrth ei ymyl yn difetha awyrgylch heddychlon yr hosbis.

Bu farw Morgan Ridler o fath prin o ganser ac mae ei fam yn dweud bod llonyddwch Tŷ Hafan yn hollbwysig iddi hi a'i theulu ar adeg ei farwolaeth.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru, dywedodd Natalie Ridler: "Os ti'n cerdded trwy ardd Tŷ Hafan does dim sŵn i glywed ond am y môr a'r aderyn yn y coed ac mae just mor berffaith.

"Just y foment ar ôl i Morgan farw, just siawns i chi cael llonydd, a dwi ddim gallu dychmygu eistedd fan 'na yn gwylio plentyn ti'n marw a chlywed noise a pheiriannau a phethau'n mynd ymlaen drws nesa'.

"Ni ddim angen unrhyw beth fel yna'n mynd ymlaen drws nesa pan wyt ti'n mynd trwy bethau mor drawmatig."