Ailddatblygu'r Foryd yn 'adnodd ychwanegol' i Gaernarfon
Mae 'na alw am ailddatblygu rhan o forglawdd yng Nghaernarfon yn sgil pryderon am ddiogelwch.
Mae rhan o'r Foryd yng Nghaernarfon wedi dechrau disgyn i'r môr wedi stormydd garw yn ddiweddar.
Mae hyn yn arwydd o effeithiau newid hinsawdd, medd Cyngor Gwynedd.
Mae 'na alw am ailddatblygu'r ardal er mwyn cynnig llwybrau teithiau llesol i bobl y dre.
"Mi fysa fo'n adnodd ychwanegol i Gaernarfon," meddai'r maer Cai Larsen.