Llifogydd yn Hirwaun: Heol dan ddŵr

Mae tywydd garw a rhybuddion am lifogydd yn parhau ar draws rhannau o Gymru.

Mae rhybudd y Swyddfa Dywydd am law trwm mewn grym tan 18:00 nos Fercher ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio y gallai sawl afon orlifo.

Yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, roedd un heol i'w weld dan ddŵr fore Mercher.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod yn "debygol" y gallai rhai cartrefi a busnesau brofi llifogydd ac y bydd trefniadau teithio yn cael eu heffeithio.