Ifan Phillips: O'dd e'n tough, ddim gwybod sut bydde'n troi mas

"O'n i ddim yn really gwybod neb o'dd wedi bod trwy'r un sefyllfa a fi... o'dd e'n tough iawn."

Ddwy flynedd yn ôl, fe newidiodd bywyd y bachwr Ifan Phillips pan gollodd ei goes yn dilyn damwain beic modur.

Roedd wedi ennill capiau i dîm dan-20 Cymru ac wedi gwneud enw i'w hun yn nhîm y Gweilch.

Ond wedi'r ddamwain, daeth ei yrfa rygbi broffesiynol i ben.

"Ansicrwydd o'dd e mwy na dim byd, a ddim gwybod sut fydde pethau'n troi mas."

Bydd rhaglen arbennig ar S4C ar 28 Medi yn dilyn hanes Ifan wrth iddo addasu i'w fywyd newydd.

Cymru Fyw fu'n sgyrsio ag ef i glywed am ei siwrne dros y ddwy flynedd diwethaf.