Uned Hergest: 'Nid da lle gellir gwell'

Rhaid parhau â'r gwaith i wella safonau yn Uned Hergest, yn ôl swyddog Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Yn dilyn archwiliad dirybudd yn yr uned, sy'n darparu gofal seiciatrig dwys yn Ysbyty Gwynedd, mae archwilwyr wedi dweud bod angen gwella lefelau staffio yno.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi ymgysylltu yn bositif gyda'r adroddiad," meddai Rhys Jones o AGIC wrth raglen Dros Frecwast.

Ond fe ychwanegodd: "Mae hyn yn enghraifft o nid da lle gellir gwell, falle - mae 'na bositifrwydd o ran y cynnydd ers tro diwetha', ond sicr dal agweddau sydd angen ffocysu gan y bwrdd iechyd.""Be' sydd yn hynod bwysig nawr yw eu bod nhw'n cario 'mlaen gyda'r gwaith maen nhw wedi ei wneud ers tro diwethaf."

Ar y cyfan, roedd yr uned yn cael ei hystyried yn ddiogel yn yr adroddiad, a nodwyd hefyd bod cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Dywedodd Teresa Owen o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod y bwrdd "wedi ein calonogi gan y cynnydd a nodir," a'i bod yn cydnabod "bod llawer mwy i'w wneud".

Mae'r uned wedi bod dan y chwyddwydr ers i adroddiad mewnol beirniadol yn 2013 ganfod bod diwylliant o fwlio a morâl isel yn Hergest yn golygu nad oedd diogelwch cleifion yn cael sylw digonol. Yn 2021, fe ddywedodd y bwrdd iechyd bod y berthynas rhwng staff wedi gwella.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn wynebu erlyniad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dilyn marwolaeth claf yn Hergest ym mis Ebrill 2021.