'Dyw'r safleoedd bws yma ddim yn ddiogel o gwbl'

Mae Cyngor Caerdydd yn peryglu bywydau pobl ddall wrth gyflwyno safleoedd bysiau newydd yn y brifddinas, yn ôl elusen RNIB Cymru.

Pryder yr elusen yw fod cerddwyr yn gorfod croesi lonydd beics yn rhai o'r safleoedd er mwyn mynd ar, neu adael, bws.

Yn ôl yr elusen mae rhai pobl wedi mynegi ofn na fydd y cyngor "yn gwrando arnon ni tan y bydd rhywun yn marw".

Mae'r cyngor yn mynnu eu bod yn gwrando ar bryderon ac yn "aros am gymeradwyaeth ariannol i gychwyn gwaith ar y mannau bysiau dros dro".