Carfan Cymru'n eisiau 'momentwm' cyn yr wyth olaf

Wrth i Gymru baratoi i herio Georgia yn y gêm olaf yng Ngrŵp C yng Nghwpan y Byd, mae Cymru eisoes yn sicr o'u lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

Ond yn ôl y prop Gareth Thomas, ni fydd cymhelliant yn broblem ddydd Sadwrn, er mai pwynt yn unig sydd ei angen ar Gymru er mwyn gorffen ar frig y grŵp.

Mae Cymru eisiau sicrhau momentwm ar gyfer rownd yr wyth olaf, meddai.

Os ydy Cymru'n llwyddo i orffen ar frig y grŵp fe fyddan nhw'n wynebu un ai Japan neu Ariannin yn yr wyth olaf ym Marseille ar 14 Hydref.

Ond os ydy Cymru yn gorffen yn ail yn y grŵp, fe fyddan nhw'n herio Lloegr yn yr un ddinas ar 15 Hydref.