Rhoi gwersi Cymraeg i rai o drigolion Nantes

Cyn heidio draw i Ffrainc ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, mae'n siŵr bod yna nifer o gefnogwyr Cymru wedi bod yn adolygu ychydig o'u Ffrangeg ers dyddiau'r ysgol.

Ond mae Elwyn Hughes yn teithio draw gyda iaith arall ar ei feddwl.

Mae'r brodor o Ruthun, sydd bellach yn byw ger Pontypridd, draw yn Nantes i ddysgu Cymraeg i drigolion y ddinas cyn gêm olaf Cymru yng Ngrŵp C, yn erbyn Georgia.