Ymgyrch i brynu tafarn yr Eryrod 'wedi bod yn anhygoel'

Mae menter gymunedol yn Llanuwchllyn wedi llwyddo i gyrraedd eu targed ariannol, a bellach yn bwrw ymlaen â chynlluniau i brynu'r dafarn leol.

Fe gyhoeddodd perchnogion tafarn yr Eryrod yn gynharach eleni y byddai'r dafarn yn mynd ar werth - gan sbarduno ymdrech godi arian gan Fenter yr Eagles.

Mae £300,000 wedi'i godi mewn cyfranddaliadau, tra bod y fenter hefyd wedi derbyn arian drwy Gronfa Ffyniant Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd is-gadeirydd Menter yr Eagles, Gwenllian Roberts: "Gafon ni ambell i gyfnod lle oeddan ni'n meddwl 'yda ni'n mynd i hitio'r targed?' - ond hitio 'naethon ni.

"'Da ni'n ofnadwy o ddiolchgar i bawb sydd wedi'n cefnogi ni."