'Colli Anscombe a Faletau yn wael i Gymru'

Mae Cymru wedi ennill eu gêm olaf yn rownd y grwpiau yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Ond wedi i Taulupe Faletau dorri ei fraich yn ystod y gêm yn erbyn Georgia dydd Sadwrn, a Gareth Anscombe hefyd wedi'i anafu, mae Cymru'n edrych ychydig gwannach wrth edrych tuag at y rownd nesaf.

Dywedodd Dewi Lake: "Mae Gareth wedi batlo'n fawr gydag anafiadau i fod nôl am y Cwpan y Byd yma. Mae wedi gweithio mor galed.

"Gyda cholli Faletau mae'n wael i ni fel 33."

Ond roedd yn hyderus wrth edrych tuag at gêm nesaf Cymru.

Dywedodd: "Ni'n dîm sydd gyda depth dda nawr... so rwy'n siŵr fydd rhywun yn gallu sloto mewn."