Addysg ôl-16 Ceredigion: 'Dim digon o arian gyda ni'

Gallai pob un chweched dosbarth sy'n weddill yng Ngheredigion gau o dan gynlluniau posib i ddiwygio addysg ôl-16 y sir.

Ar hyn o bryd, mae gan chwech o ysgolion uwchradd Ceredigion chweched dosbarth.

Dywedodd Elizabeth Evans, cynghorydd sir ac aelod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu, bod "rhaid" cyflwyno newidiadau.

Ond mae Iestyn ap Dafydd o Landysul, sy'n dad i bedwar o blant yn Ysgol Bro Teifi, yn credu ei fod yn "ymateb o'r ganrif ddiwetha'".