Canu torfol Cwpan y Byd yn 'fesen wedi tyfu'n dderwen'

Mae cefnogwyr Cymru wedi cael eu hannog i ymuno yn y digwyddiad canu "mwyaf eto" ym Marseille y penwythnos hwn, cyn herio Ariannin yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd.

Daw hynny wedi i gannoedd ymgynnull yn y dinasoedd mae Cymru wedi chwarae ynddyn nhw hyd yma, i ganu caneuon traddodiadol cyn y gemau.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Huw Davies, ei bod hi'n "bleser o'r eithaf" i gael dangos doniau canu'r Cymry i'r byd yn ystod y gystadleuaeth.