Jac Morgan: 'Edrych ymlaen at wisgo’r crys rhif 6'
Mae capten Cymru Jac Morgan yn dweud ei fod e'n edrych ymlaen at wisgo'r crys rhif chwech yn erbyn Ariannin brynhawn Sadwrn yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd.
Daw'r newid ar ôl i'r hyfforddwr Warren Gatland orfod ad-drefnu'r rheng ôl.
Oherwydd anaf i Taulupe Faletau, daw blaenasgellwr Caerlŷr, Tommy Reffell fewn i'r tîm.
Mae hyn yn golygu symud Morgan o'i safle naturiol ar y flaenasgell agored i'r ochr dywyll, gyda Arron Wainwright yn symud i safle'r wythwr.
Ond dywed ei fod wedi chwarae yno yn y gorffennol ac bod ganddo eisoes bartneriaeth dda gyda Reffell.