Tŷ unnos: 'Pwysig dechrau trafodaeth am dai i bobl ifanc'

Ar fachlud haul nos Wener bydd criw o bobl ifanc yn codi tŷ ar Gomin Coedpenmaen ym Mhontypridd, gan ail-greu'r hen draddodiad Cymreig o godi tŷ unnos.

Mae codi adeiladau o'r fath yn rhan o lên gwerin Cymru.

Yn ôl y chwedl, os oes yna do ar dŷ a mwg yn dod o'r simdde erbyn toriad dydd, bydd y rheiny fu'n gyfrifol am ei adeiladu yn cael byw yno, a ffermio'r tir o'i gwmpas hyd at y pellter y gellir taflu bwyell o ddrws y tŷ.

Digwyddiad celf wedi'i drefnu gan Citrus Arts yw'r gwaith ddydd Gwener, gyda'r nod o ysgogi trafodaeth am dai fforddiadwy.

Bu dwy sy'n cymryd rhan yn y prosiect - Seren Haf a Lucie Powell - yn siarad amdano ar Dros Frecwast fore Gwener.