Shan Cothi yn diddanu cefnogwyr Cymru ym Marseille

Does dim llawer o gefnogwyr Cymru'n darogan buddugoliaeth swmpus dros Ariannin ddydd Sadwrn - ond mae'n sicr yn deg i ddweud eu bod nhw'n "dawel hyderus".

Ond i rai, mae bod yma yn ddigon, wedi i streiciau yn Ffrainc fygwth tarfu ar eu trefniadau teithio.

Er hynny, mae Marseille yn fôr o goch, a'r Cymry'n edrych ymlaen at y gêm fawr.

I'r rheiny oedd wedi gwneud eu ffordd i'r pentref rygbi yn y ddinas ddydd Sadwrn, roedd gwledd o gerddoriaeth, gan gynnwys gan y gantores a chyflwynwraig Shan Cothi.