Ben Davies: 'Ni'n gwybod beth mae angen i ni wneud'

Mae carfan bêl-droed Cymru yn paratoi ar gyfer gêm allweddol yn erbyn Croatia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul.

Mae'n debygol y bydd angen i Gymru ennill eu tair gêm nesaf - yn erbyn Croatia, Armenia a Thwrci - os ydyn nhw am gyrraedd Euro 2024 yn awtomatig.

Yn siarad gyda'r wasg dywedodd Ben Davies - y capten yn absenoldeb Aaron Ramsey - fod y garfan yn ymwybodol o'r her sydd o'u blaenau.

"Ni'n mynd mewn i'r gêm yn ceisio ennill, a cheisio mynd mewn i'r gêm olaf gyda siawns," meddai.